Ynglŷn â’r Ganolfan
Cenhadaeth y Ganolfan Pwnc Peirianneg
“Gweithio mewn partneriaeth gyda chymuned peirianneg y DU i ddarparu’r profiad dysgu addysg uwch gorau posibl i’r holl fyfyrwyr a chyfrannu at iechyd hirdymor y proffesiwn peirianneg.”
Cefndir
Mae’r Ganolfan Pwnc Peirianneg yn un o’r 24 canolfan sy’n ffurfio rhwydwaith pynciau’r Academi Addysg Uwch. Fel canolfan genedlaethol ar gyfer holl academyddion peirianneg y DU, mae’r Ganolfan Pwnc Peirianneg yn darparu cymorth yn seiliedig ar bwnc er mwyn hyrwyddo dysgu ac addysgu o ansawdd. Rydym yn gwneud hyn trwy ysgogi rhannu arferion da ac arloesi, gan helpu academyddion peirianneg i gyfrannu at y profiad dysgu gorau posibl ar gyfer eu myfyrwyr.
Mae’r amcanion yn adlewyrchu ac yn cyfrannu at gyflawni cynllun strategol yr Academi Addysg Uwch ar gyfer 2008-13 ac maen nhw’n canolbwyntio ar anghenion academyddion peirianneg. Mae’r Ganolfan yn astud ac yn ymatebol i agendâu newydd a newidiol ac mae’n rhagweithiol wrth ddarparu gweithgareddau arloesol i ateb anghenion y gymuned peirianneg.
Mae’r Ganolfan Pwnc Peirianneg wedi’i seilio yng Nghyfadran Peirianneg Prifysgol Loughborough. Mae’n cyfuno arbenigedd academyddion ac addysgwyr peirianneg ledled y sector addysg uwch, ac mae’n gweithio’n agos â’r cyrff peirianneg proffesiynol.
Amcanion
| Amcan 1: Rhannu arferion effeithiol, trwy: | |
|---|---|
| 1a | Darparu cyfleoedd datblygu proffesiynol i staff academaidd |
| 1b | Darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar gyfer addysg peirianneg |
| 1c | Sefydlu a meithrin rhwydweithiau |
| Amcan 2: Hwyluso newid adrannol, trwy: | |
| 2a | Gweithio’n fanwl gydag academyddion ac adrannau |
| 2b | Annog arloesi, datblygu a gwerthuso |
| Amcan 3: Hysbysu a dylanwadu ar bolisi, trwy: | |
| 3a | Bod yn gyfryngwr rhwng academyddion peirianneg a gwneuthurwyr polisïau |
| 3b | Syntheseisio a dehongli effaith polisïau o ran adrannau peirianneg |
| 3c | Darparu tystiolaeth i hysbysu’r rhai sy’n dylanwadu ar bolisïau |
| Amcan 4: Hyrwyddo ymchwil addysg peirianneg, trwy: | |
| 4a | Cefnogi academyddion wrth iddyn nhw ymgymryd ag ymchwil addysgol |
| 4b | Cynnig cyfleoedd ar gyfer cyhoeddi |
| Amcan 5: Hyrwyddo addysgu a dysgu, trwy: | |
| 5a | Dathlu addysgu da |
| 5b | Cefnogi gweithgareddau sy’n cydnabod addysgu |
Cynllun Strategol y Ganolfan Pwnc Peirianneg ar gyfer 2008-2011
Cymeradwywyd y Cynllun hwn gan Fwrdd Cynghori’r Ganolfan.