Hyrwyddo Addysgu
Nod y Ganolfan yw hyrwyddo addysgu a dysgu ym mhob agwedd ar ei gwaith, gan ddarparu cyfleoedd i ddathlu addysgu da a chefnogi gweithgareddau sy’n cydnabod addysgu.
Caiff Gwobrau Addysgu’r Ganolfan Pwnc Peirianneg eu cefnogi gan y Cyngor Peirianneg, ac maen nhw’n rhoi cyfle i academyddion peirianneg dderbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am eu harferion dysgu ac addysgu eithriadol. Bob blwyddyn gwahoddir y terfynwyr i arddangos eu syniadau mewn digwyddiad cenedlaethol a chaiff £1,000 ei wobrwyo i’r enillydd terfynol gan y Cyngor Peirianneg. Os ydych chi’n chwilio am syniadau ar gyfer datblygiadau yn eich addysgu, efallai y cewch rywbeth y gallwch ei fabwysiadu yn yr astudiaethau achos ynglŷn ag ennillwyr blaenorol.
Hefyd mae’r Ganolfan wedi cefnogi cydweithwyr a ymgeisiodd am y Cynllun Cymrodoriaethau Addysgu Cenedlaethol a gwobrau Addysgu'r Academi Frenhinol Peirianneg. Pam na ddarllenwch chi rai o'u proffiliau cyn cynllunio’ch cais?