Skip to main content Skip to contextual navigation

Higher Education Academy Engineering Subject Centre

Datblygu proffesiynol ar gyfer academyddion peirianneg

Mae’r Ganolfan yn darparu cyfleoedd datblygu proffesiynol ar gyfer y rhai sy’n addysgu peirianneg ar lefel AU gan gynnwys gweithdai, adnoddau a chyllid. Rydym yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i addysg peirianneg trwy ein gwefan, e-fwletinau ac wrth ymateb i ymholiadau uniongyrchol.

Mae’r calendar digwyddiadau’n amlygu’r digwyddiadau cenedlaethol trwy gydol y flwyddyn ac mae ein tudalen ynghylch gweithio gydag adrannau yn cynnwys enghreifftiau o’r mathau o weithgareddau y gallwn eu cynnig yn uniongyrchol i chi yn eich sefydliad. O weithdai i’r rhai sydd newydd ddechrau dysgu peirianneg hyd at ddigwyddiadau sy’n canolbwyntio ar agendâu sy’n ymddangos megis ymgysylltu â chyflogwyr neu gynllunio rhaglenni, ein nod yw cynnig rhywbeth i bawb sy’n ymwneud ag addysg peirianneg.

Mae’r Ganolfan yn gallu cefnogi datblygiadau mewn dysgu ac addysgu ac ymchwil mewn addysg trwy grantiau ar gyfer Prosiectau Bach hyd at £3,500. Nod y Prosiectau Bach yw annog diddordeb ac ysgogi pobl i gymryd rhan mewn gwella profiad dysgu myfyrwyr a hyrwyddo rhagoriaeth mewn dysgu ac addysgu ym maes addysg peirianneg.

Bookmark and Share