Cymru
Mae gan y Ganolfan Pwnc Peirianneg gysylltiadau adrannol mewn dros 80% o adrannau peirianneg ledled y DU ac mae’n gweithio’n agos trwy ei chysylltiadau a’i Chymdeithion, gan gynnwys yng Nghaerdydd a Glyndŵr, i ymgysylltu staff mewn adrannau peirianneg ym mhob SAU yng Nghymru. Mae’n gwneud hyn trwy ei chysylltiadau adrannol, ymweliadau, gweithdai datblygu, cyllido Prosiectau Bach Galwad Agored, a’i chynllun Gwobrau Addysgu.
Mae gan yr Academi Addysg Uwch dudalen we benodol ar gyfer Cymru; mae’n amlygu’r datblygiadau diweddaraf yng ngweithgareddau’r genedl honno mewn addysg uwch.
Mae wyth SAU o gyfanswm o 12 yng Nghymru sy’n cynnig rhaglenni gradd mewn peirianneg; cynhaliodd y Ganolfan ymweliadau wedi’u targedu i nifer o’r sefydliadau hyn cyn iddi hyrwyddo galwad arbennig am gyllid ar gyfer Prosiectau Bach yng Nghymru, a dyfarnu cyllid i brosiectau ym Morgannwg a Chaerdydd.