Cefnogi Adrannau
Mae staff y Ganolfan Pwnc Peirianneg, gan gynnwys ei Chymdeithion, yn falch i dderbyn gwahoddiadau i ymweld ag adran (neu ysgol/cyfadran) er mwyn cyfarfod â staff a gweithio gydag adran ar agwedd ar ei ddarpariaeth dysgu ac addysgu.
Mae’r Ganolfan yn gallu galw ar sbectrwm eang o brofiad ac arbenigedd o ran addysgeg dysgu ac addysgu mewn peirianneg, sy’n galluogi’r Ganolfan i gynnig cyngor a chymorth ymgynghorol i staff a’u hadran wrth iddynt weithredu newidiadau i’w harferion addysgu. Gall y cymorth hwn amrywio o fynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd staff a Diwrnodau Dysgu ac Addysgu, i sefydlu a hwyluso digwyddiad datblygiadol pwrpasol, er enghraifft cyfarfod, seminar neu weithdy.
Mae gan y Ganolfan bortffolio sefydlog o bynciau yn ymwneud ag addysgeg ar lefelau strategol a gweithredol, a gall eich adran ddewis pwnc sy’n cefnogi datblygiad staff yn eu harferion dysgu, addysgu ac asesu mewn peirianneg. Dyma restr o'n gweithdai adrannol.